Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2024
Amser:
09.02 -
09.15
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Llyr Gruffydd AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan, roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei rhan.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd (30
munud) Gohiriwyd tan 23
Ionawr
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r gaeaf mewn gofal iechyd (45 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.20pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 23 Ionawr 2024
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd (30 munud)
Dydd Mawrth 30 Ionawr 2024
· Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 (5 munud)
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 31 Ionawr 2024
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17(iii) mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (5 munud)
Dydd Mercher 7 Chwefror 2024
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 24 Ionawr:
Mabon ap Gwynfor
NNDM8448
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod darparwyr gofal hosbis elusennol yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gofal a chymorth hanfodol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan salwch angheuol ledled Cymru;
b) bod y sector hosbis elusennol yn darparu gofal i fwy na 20,000 o bobl bob blwyddyn, gyda'u gwasanaethau yn cefnogi pobl sy'n marw i aros yn eu cartrefi eu hunain a lleihau derbyniadau i'r ysbyty, gan sicrhau canlyniadau gwell i unigolion a'r GIG;
c) bod costau cynyddol o ran ynni a staff, pwysau ar y gweithlu, a galw cynyddol am ofal cymhleth yn fygythiad dirfodol i gynaliadwyedd y sector;
d) bod 90 y cant o hosbisau yn cyllidebu ar gyfer diffyg yn 2023/24 ac yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i gwrdd â'r diffyg; a
e) y bydd y galw a'r angen am ofal lliniarol yn tyfu'n sylweddol wrth i'r boblogaeth heneiddio ac mae mwy o bobl yn byw yn hirach gyda chyflyrau cronig lluosog.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i weithio gyda'r sector i fynd i'r afael â'r heriau cyllido uniongyrchol, gan gynnwys sicrhau cynnig cyflog teg i weithlu hosbisau, sy'n cyfateb i'r cynnydd yn yr Agenda ar gyfer Newid, fel bod cydraddoldeb â chydweithwyr yn y GIG;
b) datblygu ateb ariannu cynaliadwy hirdymor mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys fformiwla ariannu genedlaethol newydd, cynllun gweithlu, a manyleb gwasanaeth gofal lliniarol a diwedd oes; ac
c) ymestyn adolygiad cyllid gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2024, os nad yw hyn yn ymarferol o fewn yr amserlen hon.
Nododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar amserlennu arfaethedig ei raglen waith gweithdrefnol, a chytunodd arno.